
Declan Cahill
Helô a chroeso i adran Penlan o wefan ‘Ourbobby’. Fi yw Declan Cahill, Arolygydd yr ardal hon. Ym Mhenlan mae timau penodol o swyddogion cymdogaeth lleol wedi’u lleoli ym mhob ward. Gall aelodau’r cyhoedd gysylltu â’u swyddog cymdogaeth am gyngor, gwybodaeth neu i drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt. Gellir dod o hyd i’w rhifau ar y tudalennau hyn. Rwy’n credu mewn gweithio gyda’r gymuned gan mai dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o leihau trosedd ac anhrefn. Heb eich cymorth a’ch gwybodaeth chi ni fyddai Penlan mo’r gymuned ffyniannus yw hi heddiw. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio â chi a’n partneriaid.