
Arolygydd Stephen Rees
Fiw yw Arolygydd ardal Porthcawl, sy’n cynnwys wardiau Drenewydd yn Notais, Bae Rest, Dwyrain Porthcawl, Gorllewin Porthcawl, Notais, y Pîl, Cefn Cribwr a Chorneli.
Mae’r ardal yn dref glan môr fywiog boblogaidd, sy’n croesawu miloedd o dwristiaid ac ymwelwyr ar eu gwyliau neu daith diwrnod yn ystod misoedd yr haf a chyfnodau gwyliau ysgol eraill, yn ogystal ag atyniadau poblogaidd eraill drwy gydol y flwyddyn.
Mae dau Dîm Plismona Cymdogaeth penodol ym Mhorthcawl a’r Pîl.
Mae Timau Plismona Cymdogaeth Porthcawl yn patrolio’u hardaloedd priodol â brwdfrydedd ac ymroddiad.
Eu blaenoriaeth yw cysylltu â thrigolion ac ymwelwyr i’r gymuned er mwyn iddynt allu pennu a delio â phroblemau lleol sy’n effeithio ar ansawdd bywyd y cyhoedd.
Fel rhan o hyn mae’r ddau dîm yn gweithio gyda thrigolion i fynd i’r afael â phroblemau lleol a bennir drwy gyfarfodydd PACT.
Yn ogystal, cefnogir pob swyddog gan ‘Tîm Cymorth Cymdogaeth Porthcawl’.
Mae’r tîm hwn wedi’i ymrwymo i ddatrys problemau cymunedol parhaus er mwyn gallu datrys unrhyw broblemau hirdymor sy’n tarfu ar drigolion.
Ein prif flaenoriaeth yw diogelu cymunedau ardaloedd Porthcawl a’r Pîl er mwyn iddynt barhau yn llefydd diogel i fyw ac i weithio ynddynt, ac i ymweld â hwy, yn rhydd o droseddu, cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.