Croeso i Ourbobby.com – ein hardal, ein heddlu, ein llais

Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd yn Heddlu De Cymru

OurBobby.com Hafan

Llanishen Area

Inspector
Inspector Paul Crowley

Helô, fy enw i yw Paul Crowley a fi yw eich Arolygydd Heddlu lleol sy’n gyfrifol am Dîm Cymdogaeth Llanisien a Llanedeyrn sy’n cynnwys wardiau Cyncoed, Mynydd Bychan, Llys-faen, Llanisien, Pentwyn, Pontprennau a’r hen Laneirwg, Penylan a Rhiwbeina.

Mae cudd-wybodaeth gymunedol yn arf grymus i’n helpu yn y dasg hon a hoffwn i chi ymgysylltu â’ch heddlu lleol i ddynodi’r problemau sydd fwyaf pwysig i chi, a thrwy hynny ddylanwadu ar flaenoriaethau plismona lleol yn eich cymdogaeth.

Ein nod yw ymgynghori’n eang a bydd eich presenoldeb mewn cyfarfodydd

Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd (PACT) yn rhoi cyfle i chi leisio eich barn i’m staff ac asiantaethau sy’n bartneriaid. Os nad ydych yn hoffi mynychu cyfarfodydd mae croeso i chi ffonio, ysgrifennu, e-bostio neu alw i mewn yn eich gorsafoedd lleol yn Llanisien neu Llanedeyrn.

Gyda’ch cymorth chi rwy’n credu y gall eich tîm plismona lleol helpu i sicrhau bod y rhan hon o Gaerdydd yn parhau'n lle braf a diogel i fyw ac i weithio ynddo, neu i ymweld ag ef.

 

 

 

 

 

 

Llanishen Area

Pa ardal mae awdurdod Llanishenyn ei chwmpasu?
 

Chwiliwch am eich cymdogaeth (Ward) mewn Llanishen
Rhowch eich cod post neu dref

Dod o hyd i'ch cymdogaeth (Ward) yn y rhestr isod

 
Link to home page