
Julian Williams
Helo a chroeso i'ch tudalennau lleol ar wefan 'Einbobi'.
Julian Williams ydw i, Prif Uwcharolygydd Rhanbarth Gorllewinol Heddlu De Cymru sy'n cwmpasu ardaloedd Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot. Mae'r swyddogion sy'n perthyn i'r timau cymdogaeth yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth o ansawdd i gymunedau amrywiol yr ardal hon. Maent yn deall pwysigrwydd gwrando arnoch a delio â'ch pryderon.
Mae gennych fy ymrwymiad fel comander yr ardal hon mai ein nod yw rhagori wrth blismona ein cymdogaethau ac mae gennym hanes da yn y maes hwn. Drwy gydweithio â chi, y gymuned, rydym wedi gwneud cynnydd da wrth leihau nifer y troseddau a'r ofn o drosedd ledled Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.