Pa ardal mae awdurdod lleol Awdurdod Lleol Abertawe yn ei gwmpasu?
Secondiad Heddlu De Cymru i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru
Mae rhanbarth De Cymru’r Comisiwn Coedwigaeth yn dioddef mwy o ddigwyddiadau o drosedd ac anhrefn nag unrhyw ardal goedwigaeth arall yn y Deyrnas Unedig.
Ym mis Ionawr 2007, dechreuais ar gyfnod secondiad tair blynedd i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru. Rwy’n swyddog gweithredu sy’n rhan o Gymunedau a Phartneriaethau, Rhanbarth K, Heddlu De Cymru. Dros gyfnod y secondiad, byddaf wedi fy lleoli gyda’r Comisiwn Coedwigaeth yn eu swyddfa ardal ger Resolfen, Castell-nedd.
Dyma fy mhrif swyddogaethau a chyfrifoldebau:
· Casglu a datblygu hanesion a gwybodaeth am droseddau coedwig
· Cynnal patrôl gwelededd uchel ar droed ac mewn cerbyd
· Nodi’r unedau heddlu neu’r asiantaethau allanol priodol sydd fwyaf addas ar gyfer taclo ardaloedd sy’n broblem
· Cynllunio a gweithredu ymgyrchoedd gorfodi amlasiantaethol a chudd
· Rhoi cyngor i staff y Comisiwn Coedwigaeth ynghylch atal troseddu a deddfwriaeth
· Cynorthwyo, cynghori a gweithio gydag unedau heddlu lleol (yn cynnwys eich Timoedd Gwarchod Cymdogaeth) er mwyn taclo troseddau coedwig
· Codi ymwybyddiaeth o droseddau coedwig trwy’r cyfryngau lleol a chenedlaethol
Cydlynu a datblygu rhwydwaith o gynlluniau ‘Gwarchod Coedwig’ trwy holl ardal De Cymru er mwyn sicrhau’r wybodaeth a’r ffeithiau gorau.
Chwiliwch am eich cymdogaeth (Ward) mewn Forestry Policing
Rhowch eich cod post neu dref