Croeso i Ourbobby.com – ein hardal, ein heddlu, ein llais

Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd yn Heddlu De Cymru

OurBobby.com Hafan

PSV Mathew Hallett

Mathew Hallett Young Volunteer Award Winner
Mathew Hallett – Enillydd Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc

Mathew Hallett yw Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn 2011 Awdurdod Heddlu De Cymru.

Beth mae dy rôl wirfoddol yn ei chynnwys?
Rwy’n rhan o Dîm Plismona Cymdogaeth yn y Ddraenen Wen a Rhydyfelin.  Mae’r math o waith rwy’n ei wneud yn amrywio yn ôl yr hyn y mae angen ei wneud.   Fodd bynnag, mae’r prif ddyletswyddau’n cynnwys galw heibio i gysuro dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Weithiau rwy’n pennu a throsglwyddo problemau lleol i’r Swyddog Cymorth Cymunedol, ac o ganlyniad caiff problemau eu datrys yn fwy effeithlon.

Pam benderfynaist fod yn wirfoddolwr?
Fy uchelgais ar gyfer y dyfodol yw bod yn swyddog heddlu, ond 17 oed yn unig oeddwn i ar y pryd felly roeddwn i’n rhy ifanc i wneud cais am unrhyw swydd.  Gwelais hysbyseb ar gyfer y cynllun gwirfoddoli ar wefan Heddlu De Cymru, felly gwnes i gais am ei fod yn gam yn y cyfeiriad cywir i fod yn swyddog heddlu.


Sut mae bod yn wirfoddolwr yn ffitio i mewn i dy ddiwrnod arferol?
Rwy’n mynychu fy ngorsaf heddlu leol mor aml â phosib.   Pan oeddwn yn yr ysgol byddwn yn mynd ar y penwythnos, ond ers i mi adael yr ysgol rwy’n mynychu’n amlach.


A oes unrhyw briodoleddau arbennig y mae angen i ti feddu arnynt er mwyn bod yn wirfoddolwr?
Y peth pwysicaf yw parodrwydd i helpu.  Cafodd fy sgiliau a’m gallu eu hasesu a’u paru â’r rolau mwyaf addas.  Dewisais y rôl hon oherwydd fy mod yn mwynhau tasgau cyfrifiadurol a chyfathrebu gyda phobl yn fawr.


A oes angen cyflawni unrhyw hyfforddiant, ac os oes, faint?
Oes, rwyf wedi cyflawni diwrnod ymgyfarwyddo a Chwrs Hyfforddiant Amrywiaeth.


A oes angen i chi weithio nifer penodol o oriau dros gyfnod o amser, neu a yw’n fater o droi i fyny pryd bynnag fo’n bosib?
Yn fy mhrofiad i mae hyn yn hyblyg iawn – gallaf weithio pryd bynnag rwyf ar gael, a gwerthfawrogir pob awr rwy’n ei rhoi yn fawr.  Rwy’n cyrraedd dros 25 awr y mis yn rheolaidd, ond mae hyn oherwydd fy sefyllfa bersonol, a nid oes unrhyw bwysau’n cael ei roi arnaf i.


Fel gwirfoddolwr, wyt ti’n cael dewis pa adran neu ardal i weithio ynddynt?
Ydw.   Ces i sawl opsiwn a dewisais yr un oedd yn edrych fwyaf diddorol i mi.


Pa mor hen y mae angen i chi fod i wneud cais i wirfoddoli gyda Heddlu De Cymru?
16 oed (gyda chaniatâd rhieni), ond yn ddelfrydol, 18 oed.

Beth sydd fwyaf gwobrwyol am wirfoddoli?
Teimlo eich bod yn ddefnyddiol!  Hefyd, gwybod fod yr hyn rwy’n ei wneud yn effeithio’n gadarnhaol ar y gymuned rwy’n byw ynddi.

Os oes gan rywun ddiddordeb mewn gwirfoddoli, oes cyngor gennyt iddynt?
Ewch amdani, achos gallwch gymryd rôl sydd o ddiddordeb i chi, a gall hyn fod yn achos llawer o foddhad personol.

Blog Newyddion

Link to home page