Croeso i Ourbobby.com – ein hardal, ein heddlu, ein llais

Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd yn Heddlu De Cymru

OurBobby.com Hafan

Myfyrwyr Gwirfoddol yr Heddlu

Myfyrwyr Gwirfoddol yr Heddlu

students
Heddlu Dyfarniadau Myfyrwyr Gwirfoddoli 2012

Myfyrwyr Gwirfoddol yr Heddlu

Mae’r Cynllun Gwirfoddoli i Fyfyrwyr yn cael ei gynnal ar y cyd â Chynllun Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu, Heddlu De Cymru.

 

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae myfyrwyr yn Ne Cymru yn arbennig o Brifysgolion Caerdydd a Threfforest wedi bod yn cymryd rhan ragweithiol yn eu cymunedau lleol, er lles y gymuned ac er lles y boblogaeth o fyfyrwyr sydd ar y campws ac yn y pentrefi myfyrwyr.

Mae’n galonogol fod myfyrwyr yn ymgysylltu â’r gymuned leol mewn ffordd gyfeillgar, yn aml dim ond ochr waethaf y gymuned myfyrwyr mae’r cyhoedd yn ei weld ac o ganlyniad maent yn rhoi’r bai am nifer o broblemau arnyn nhw (weithiau’n gywir ond weithiau’n anghywir). Drwy gymryd rhan, siarad gyda phobl a datrys problemau, mae’r cyhoedd wedi gallu gweld fod myfyrwyr yn gydwybodol a bod ganddynt ddiddordeb ym marn a safbwynt y gymuned gyffredinol.

Mae’r gweithgareddau sy’n cael eu cwblhau gan fyfyrwyr gwirfoddol hefyd yn cael eu defnyddio gan y Prifysgolion yn eu Gwyddorau Heddlu BSc, er enghraifft, i ddarparu astudiaethau achos ymarferol wrth ddysgu dulliau ymchwil i’r myfyrwyr.

Gan weithio o dan arweiniad aelodau’r Timau Plismona Cymdogaeth byddwch yn ymgysylltu’n uniongyrchol gyda Swyddogion Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu sy’n gwasanaethu.

Os hoffech gofrestru eich diddordeb yn y Cynllun Myfyrwyr Gwirfoddol, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais sy’n atodol. Bydd hefyd yn destun archwiliadau cefndir lleol yn unol â pholisi recriwtio cyfredol Heddlu De Cymru.

Mae’r broses o recriwtio Gwirfoddolwyr Myfyrwyr yr Heddlu bellach ar gau tan fis Medi 2013, pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan hon ac mewn Undebau Myfyrwyr ledled De Cymru.

 

 

Link to home page