Croeso i Ourbobby.com – ein hardal, ein heddlu, ein llais

Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd yn Heddlu De Cymru

OurBobby.com Hafan

Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu

PSV Badge

Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu

Mae Gwirfoddolwr Cymorth yr Heddlu yn rhywun sydd yn gwirfoddoli eu hamser a’u sgiliau, am ddim, i gynorthwyo eu Tîm Plismona Cymdogaeth lleol drwy berfformio tasgau cymorth heb iwnifform.

Mae rolau Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu yn gwella gwaith y gwasanaeth heddlu ac yn darparu cymorth ychwanegol i gymunedau ar draws De Cymru.

Bydd cyfleoedd i Wirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu yn amrywio o un ardal i’r llall yn ôl anghenion eich Tîm Plismona Cymdogaeth a’r gymuned. Fodd bynnag, rydym yn chwilio am bobl a hoffai fod ynghlwm ag amrywiaeth o weithgareddau a allai gynnwys:

  • Bod yn Gadeirydd Annibynnol ar banelau PACT
  • Cynnal arolygon stryd
  • Cynorthwyo gyda hyrwyddo gweithgareddau’r Tîm Plismona Cymdogaeth
  • Diweddaru cronfeydd data Plismona Cymdogaeth
  • Cymryd rhan mewn ymgyrchoedd gwella’r gymuned sy’n cael eu harwain gan PACT, gan gynnwys ymgyrchoedd lleihau cyflymder a Disgos Golau Glas

 

Bellach, gyda thwf cynyddol y Cynllun Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu rydym yn ehangu’r recriwtio i gynnwys pob adran ac ardal ar draws Heddlu De Cymru.

Rydym yn parhau i recriwtio myfyrwyr o brifysgolion Cymru i ddatblygu gweithgareddau rhwng cymunedau a’r boblogaeth o fyfyrwyr.

Recriwtio

Yn dilyn llwyddiant parhaus y cynllun Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu, mae Heddlu De Cymru bellach yn rhagweithiol o ran recriwtio i bob ardal o Dde Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod o Heddlu De Cymru fel Gwirfoddolwr Cymorth yr Heddlu bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais a rhoi manylion dau ganolwr. Bydd yna angen i chi ddod i gyfweliad anffurfiol. Mae angen cynnal gwiriadau heddlu trylwyr cyn derbyn unrhyw un ar y cynllun gwirfoddoli.


Mae yna broses archwilio cefndir yn ei lle ar gyfer pob ymgeisydd newydd yn unol â pholisi recriwtio cyfredol Heddlu De Cymru. Os bydd eich cais yn llwyddo’r cam archwilio cefndir bydd angen i chi gwblhau holiadur meddygol byr a chewch eich gwahodd i gyfweliad anffurfiol.

Mae yna broses archwilio cefndir yn ei lle ar gyfer pob ymgeisydd newydd yn unol â pholisi recriwtio cyfredol Heddlu De Cymru. Os bydd eich cais yn llwyddo’r cam archwilio cefndir bydd angen i chi gwblhau holiadur meddygol byr a chewch eich gwahodd i gyfweliad anffurfiol.

Mae angen i bob rôl wirfoddol gael gwiriadau heddlu trylwyr cyn derbyn unrhyw un ar y cynllun, caiff y broses hon ei chwblhau o fewn 4-6 wythnos fel arfer.

 

 

 

 

 

 

Blog Newyddion

Link to home page