Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru a’r Heddlu yn cydnabod y gall gyrru oddi-ar-y-ffordd fod yn hwyl mawr. Ond mae’n rhaid i bobl sy’n cymryd rhan ynddo barchu’r gyfraith a phobl eraill, a pheidio ag achosi niwed i fywyd gwyllt ac i’r amgylchedd.
Mae pobl sy’n defnyddio cerbydau oddi-ar-y-ffordd yng nghoedwigoedd Cymru yn torri Is-ddeddfau’r Comisiwn Coedwigaeth. Gall hynny hefyd olygu cyflawni nifer o droseddau, a bydd y troseddwr yn mentro gweld ei gerbyd ef neu hi yn cael ei atafaelu ac yn cael ei riportio am wŷs. Cafwyd nifer o ddamweiniau difrifol hefyd yn ymwneud â reidwyr/gyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr y coedwigoedd
Felly, beth ddywed y gyfraith?
Mae Adran 59 Deddf Diwygio’r Heddlu yn berthnasol i ddwy drosedd benodol oddi-ar-y-ffordd.
1. Reidio/gyrru esgeulus neu anystyriol ar ffordd neu fan cyhoeddus.
2. Reidio neu yrru’n anghyfreithlon ar dir sydd heb fod yn rhan o ffordd, megis tir comin, rhostir, llwybr troed, llwybr marchogaeth.
Dywed Adran 34 Deddf Trafnidiaeth ar y Ffyrdd 1988 ei bod yn anghyfreithlon i reidio/gyrru cerbyd ar dir y Comisiwn Coedwigaeth, tir comin, rhostir neu unrhyw dir nad yw’n rhan o ffordd, heb ganiatâd i wneud hynny.
Gall swyddog yr heddlu sydd â sail resymol dros gredu na ddangoswyd gofal a sylw dyladwy, NEU fod beiciau/cerbydau 4x4 wedi eu reidio/gyrru mewn unrhyw fan heblaw ar ffordd gyhoeddus, neu fod gweithgaredd yn achosi blinder, gofid neu drallod i aelodau o’r cyhoedd, atal y reidiwr/gyrrwr, ac wedi rhoi rhybudd, atafaelu'r cerbyd a’i symud ymaith.
Os bydd rhiant neu warcheidwad yn fwriadol yn caniatáu i’w plentyn reidio neu yrru unrhyw fath o gerbyd oddi-ar-y-ffordd yn anghyfreithlon, mae’n bosibl iawn y cânt eu cyhuddo o droseddau’n ymwneud â chaniatáu i’w plentyn ddefnyddio cerbyd modur heb y ddogfennaeth berthnasol.
Nodyn i rieni:
Cyn i chi benderfynu prynu cerbyd oddi-ar-y-ffordd i’ch plentyn, mynnwch wybod lle cânt ddefnyddio’r cerbyd yn gyfreithlon. Ychydig iawn o safleoedd cyfreithlon sydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Nid yw tir y Comisiwn Coedwigaeth yn safle cyfreithlon. Mae’r heddlu’n cynnal ymgyrchoedd gorfodi yn rheolaidd ar dir y Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru, ac maent wedi rhoi cannoedd o rybuddion ac wedi atafaelu llawer o feiciau.
Er bod gorfodaeth yn un dewis o ran delio â’r broblem gynyddol hon, bydd addysg a pharatoad yn rhan allweddol o’n dull o weithio, a byddwn yn cydweithio ag Awdurdodau Lleol, yr Heddlu, perchnogion tir a’r cyhoedd.
Am ragor o wybodaeth am y gyfraith a cherbydau oddi-ar-y-ffordd, cysylltwch â’ch gorsaf heddlu leol.