Swyddogion Heddlu arferol yw Swyddogion Troseddau Bywyd Gwyllt yr Heddlu (neu PWCO) sydd wedi gwirfoddoli i dderbyn cyfrifoldeb ychwanegol at eu gwaith arferol bob dydd, gan arbenigo mewn ymchwilio i droseddau bywyd gwyllt.
Byddant wedi dilyn cwrs cydnabyddedig cenedlaethol sy’n delio ag ymchwilio i bob math o droseddau bywyd gwyllt e.e. baetio brochod, potsian ceirw/pysgod, dwyn wyau, hela anghyfreithlon, dinistrio cynefinoedd a masnachu mewn rhywogaethau sydd mewn perygl.
Maent yn cydweithio’n agos ag asiantaethau eraill megis yr RSPB, yr RSPCA, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, a grwpiau gwirfoddol gwarchod anifeiliaid a bywyd gwyllt wrth ymchwilio i ddigwyddiadau neu wrth rannu gwybodaeth a ffeithiau.