Menter Gwarchod Coedwig yn targedu potsian ceirw’n anghyfreithlon
Mae Heddlu De Cymru a’r Comisiwn Coedwigaeth yn ymuno â’i gilydd i daclo potsian ceirw’n anghyfreithlon yng nghefn gwlad De Cymru.
Byddant hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol er mwyn targedu potswyr sy’n ymweld â thafarndai a thai bwyta cyn y Nadolig er mwyn ceisio gwerthu’r cig carw.
Mae Ymgyrch Antler yn rhan o’r fenter Gwarchod Coedwig, a lansiwyd yn gynharach eleni er mwyn codi ymwybyddiaeth ac annog pobl i riportio troseddau yng nghefn gwlad.
Meddai'r Cwnstabl Andrew Scourfield, swyddog Heddlu De Cymru a secondiwyd i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, “Mae tiroedd y Comisiwn Coedwigaeth yng Nghastell-nedd a Port Talbot a’r ardaloedd coedwigaeth i’r gorllewin o Faesteg yn gartref i hyddgant o Ewig Lwyd gwyllt.
“Nid ydym yn sicr faint yn union o geirw gwyllt sy’n byw yn yr ardaloedd hyn, ond amcangyfrifir fod yno gannoedd, os nad mwy.
“Dros y blynyddoedd, mae potswyr wedi targedu’r ardaloedd hyn yn rheolaidd, yn arbennig cyn y Nadolig pan fydd rhai ohonynt yn gwerthu’r cig carw i dafarndai a thai bwyta lleol. Mewn rhai rhannau o’r wlad mae potswyr yn gwneud cryn dipyn o arian o’r gweithgaredd anghyfreithlon hwn.”
Mae’n bosibl fod gan bobl syniad rhamantaidd am botsian ceirw, sef unigolyn yn mynd allan gyda’r nos gyda gwn i
‘ddal un i swper’. Yn anffodus, mae’r gwir yn wahanol iawn.
Mae potswyr heddiw’n debygol o fod yn fwy soffistigedig ac yn troseddu mewn ffyrdd eraill hefyd, megis gwerthu cyffuriau, byrgleriaeth, lladrad neu dwyll. Byddant yn berchen ar gerbydau 4x4, reiffls pwerus a chŵn hela megis Cŵn Potsiwr.
Meddai rheolwr ardal y Comisiwn Coedwigaeth, Kay Williams, “Bydd potswyr yn gwneud beth bynnag sydd ei angen i fynd trwy rwystrau diogelwch y Comisiwn Coedwigaeth yn anghyfreithlon. Mae peiriannau llifanu, offer weldio a hyd yn oed JCB wedi eu defnyddio yn y gorffennol.
“Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn Ne Cymru yn creu coedwigoedd mwy integredig ac yn hybu ardaloedd megis Parc Coedwig Afan, a gwelsom gynnydd yn nifer y bobl sy’n gweithio ac yn defnyddio’r goedwig yn gyfreithlon.
“Trefnir mwy a mwy o ddigwyddiadau megis teithiau natur gyda’r nos a reidiau beic mynydd mewn ardaloedd lle mae ceirw’n byw a lle mae tystiolaeth o botsian.”
Trwy godi ymwybyddiaeth o’r mater drwy’r cynllun llwyddiannus Gwarchod Coedwig, ac ymweld â ffermydd lleol ac anheddau gwledig, cafwyd eisoes dipyn mwy o riportio potsian ceirw. Mae adroddiadau am sŵn reiffls, cerbydau’n symud yn y goedwig ganol nos, a darnau o gyrff ceirw wedi eu taflu - megis perfeddion, coesau a phennau - oll yn arwyddion o botsian ceirw.
Mae pryder hefyd am greulondeb a ddangosir at y ceirw. Mae’n annhebygol bod y potswyr wedi eu hyfforddi na bod ganddynt brofiad o lech-hela ceirw. Ac mae’n debyg nad ydynt yn ymwybodol o “reolau llech-hela”, megis pryd i saethu a pha ran o’r corff y dylid anelu ato er mwyn sicrhau lladdiad glân.
Er enghraifft, os caiff carw ei saethu yn y geg, mae’n debyg o lwgu i farwolaeth, os caiff ewig ei saethu cyn ei charw ifanc, bydd y carw ifanc, heb ei fam, yn llwgu hefyd. Gwyddys bod rhai potswyr wedi defnyddio arfau amhriodol ac anghyfreithlon megis bwâu croes a gynnau saethu, gan achosi rhagor o berygl o anafiadau a dioddefaint i’r anifeiliaid hyn.
Ceidwad Bywyd Gwyllt y Comisiwn Coedwigaeth, Alan Fox a'r Cwnstabl Andrew Scourfield (Swyddog Trosedd Coedwigoedd) yn archwilio Ewig Lwyd a saethwyd.
Yn ogystal â’r agwedd o greulondeb i anifeiliaid, bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar hylendid bwyd, gyda swyddogion iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol yn ymweld â thafarndai, tai bwyta a gwestai, a gadael taflenni ynddynt, er mwyn codi ymwybyddiaeth o beryglon a chanlyniadau cyfreithiol prynu neu werthu cig carw a gafwyd o ffynonellau anghyfreithlon.
Meddai Steve Adie, Prif Swyddog Safonau Masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot, “Gwyddom fod potswyr wedi ymweld â thafarndai a thai bwyta lleol i geisio marchnad ar gyfer eu cig carw, yn arbennig yn y cyfnod cyn y Nadolig.
“Os na chaiff y cig ei grogi’n gywir, mae tocsinau yn hel ynddo, ac os caiff y cig hwn ei gyflwyno i’r gadwyn fwyd, gall y cig sydd wedi ei lygru achosi niwed difrifol i iechyd y cyhoedd.”
Ac meddai Mike Thomas, Swyddog Safonau Masnach Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr: "Mae pob carw sy’n cael ei ladd yn gyfreithlon gan saethwyr profiadol yn cael ei archwilio gan berson cymwys er mwyn sicrhau ei fod yn iach, cyn iddo ddod i’r gadwyn fwyd i’w fwyta gan bobl.
“Gan nad yw hynny’n digwydd i geirw sy’n cael eu lladd gan botswyr, mae’r perygl i iechyd y cyhoedd yn fwy.”
Dywedodd Cwnstabl Scourfield y byddai pedair prif elfen i’r ymgyrch – addysg, gwybodaeth, ataliad a gorfodaeth.
“Ein nod yw codi ymwybyddiaeth pobl o botsian ceirw, er mwyn gwella llif gwybodaeth atom a phwysleisio peryglon prynu cig carw o ffynonellau diegwyddor”, meddai.
“Mae gan Heddlu De Cymru nifer o unedau arbenigol a fydd yn ffurfio’r agwedd o orfodaeth i’r ymgyrch er mwyn ymchwilio ac erlyn y bobl sy’n cymryd rhan mewn potsian ceirw yn anghyfreithlon.”
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am botsian ceirw, potswyr neu werthu cig carw yn anghyfreithlon, gallwch gysylltu â Chwnstabl Scourfield yn gyfrinachol neu gysylltu â Taclo'r Taclau ar y rhif a welir isod:
Cwnstabl Andrew Scourfield
01633 580234
Taclo'r Taclau
0800 555 111