Mae Howard Clemo yn wirfoddolwr gyda Heddlu De Cymru ac ar hyn o bryd mae’n cynorthwyo’r Adran Diogelwch Cymunedol yn Y Barri.
Beth ydych yn gwneud yn eich rôl gwirfoddol?
Rwy’n rhan o dîm Partneriaeth Cymunedol Bro Diogelwch sy’n gweithio yn Y Barri, Penarth a Bro Morgannwg. Mae’r math o waith yr wyf yn ei wneud yn amrywio yn ôl yr hyn sy’n ofynnol, fodd bynnag, mae’r prif ddyletswyddau’n cynnwys Cydlynu Cynllun Pubwatch Y Barri, yn ogystal â chynnal cronfeydd data amrywiol. Weithiau, rwy’n canfod ac yn rhoi gwybod am faterion lleol i’r Swyddog Rhawd Cymunedol ac o ganlyniad mae problemau’n cael eu datrys yn fwy effeithiol.
Pam y gwnaethoch benderfynu dod yn wirfoddolwr?
Wedi ymddeol o fy ngwaith llawn amser clywais am y cynllun gwirfoddoli gyda’r Heddlu oedd yn cael ei hyrwyddo a meddyliais mai hwn oedd y dewis iawn i mi - a ro’n i’n iawn!
Sut mae gwirfoddoli yn ffitio gyda’ch diwrnod arferol?
Rwy’n mynd i’r swyddfa ar unrhyw fore yn yr wythnos ac mae’r oriau’n hyblyg. Felly, rwy’n arfer trefnu fod fy amser gwirfoddoli ar yr un adeg ac y mae fy ngwraig, sy’n gweithio’n rhan amser, yn y gwaith. Nid yw felly yn effeithio ar ein hamser fel teulu nac ar weithgareddau eraill.
Oes unrhyw rinweddau arbennig sydd eu hangen er mwyn dod yn wirfoddolwr?
Y peth pwysicaf yw parodrwydd i fod yn ddefnyddiol. Cafodd fy sgiliau a fy ngallu eu hasesu ac yna eu paru gyda’r swydd(i) oedd yn fwyaf addas i mi. Dewisais y rôl hon am fy mod yn mwynhau gwneud tasgau ar y cyfrifiadur ac yn mwynhau cyfathrebu â phobl.
Oes angen hyfforddiant, ac os felly, faint?
Oes, rwyf wedi bod i ddiwrnod cynefino ac wedi bod ar gwrs hyfforddiant Amrywiaeth.
Oes gofyn i chi weithio nifer penodol o oriau dros gyfnod o amser, neu ai pryd bynnag yr ydych ar gael yw’r drefn?
Yn fy mhrofiad i mae hyn yn hyblyg iawn - gallaf weithio pryd bynnag yr wyf ar gael ac mae pob awr yr wyf yn ei rhoi yn cael ei gwerthfawrogi. Er fy mod i’n aml yn gweithio dros 30 awr y mis, mae hynny oherwydd fy sefyllfa bersonol i, nid oes unrhyw bwysau yn cael ei roi arnaf.
Fel gwirfoddolwr, a oes modd i chi benderfynu ym mha adran neu ardal yr hoffech?
Oes, cefais lawer o ddewis a dewisais y swydd yr wy’n gweithio ynddi ar hyn o bryd.
Pa oedran y mae’n rhaid i chi fod er mwyn gwneud cais i ddod yn wirfoddolwr gyda Heddlu De Cymru?
16 mlwydd oed (gyda chaniatâd rhieni) ond yn ddelfrydol byddwch yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn.
Beth yw’r peth mwyaf gwerth chweil am ddod yn wirfoddolwr?
Teimlo eich bod yn ddefnyddiol! Hefyd, gwybod fod yr hyn yr wy’n ei wneud yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned yr wyf yn byw ynddi.
Pa gyngor byddech yn rhoi i rywun sydd â diddordeb mewn dod yn wirfoddolwr?
Ewch amdani, gallwch ddewis rôl sydd o ddiddordeb i chi, a gall hyn roi bodlonrwydd personol enfawr i chi.