Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu
Mae Gwirfoddolwr Cymorth yr Heddlu yn rhywun sydd yn gwirfoddoli eu hamser a’u sgiliau, am ddim, i gynorthwyo eu Tîm Plismona Cymdogaeth lleol drwy berfformio tasgau cymorth heb iwnifform.
Mae rolau Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu yn gwella gwaith y gwasanaeth heddlu ac yn darparu cymorth ychwanegol i gymunedau ar draws De Cymru.
Bydd cyfleoedd i Wirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu yn amrywio o un ardal i’r llall yn ôl anghenion eich Tîm Plismona Cymdogaeth a’r gymuned. Fodd bynnag, rydym yn chwilio am bobl a hoffai fod ynghlwm ag amrywiaeth o weithgareddau a allai gynnwys:
-
Bod yn Gadeirydd Annibynnol ar banelau PACT
-
Cynnal arolygon stryd
-
Cynorthwyo gyda hyrwyddo gweithgareddau’r Tîm Plismona Cymdogaeth
-
Diweddaru cronfeydd data Plismona Cymdogaeth
-
Cymryd rhan mewn ymgyrchoedd gwella’r gymuned sy’n cael eu harwain gan PACT, gan gynnwys ymgyrchoedd lleihau cyflymder a Disgos Golau Glas
Bellach, gyda thwf cynyddol y Cynllun Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu rydym yn ehangu’r recriwtio i gynnwys pob adran ac ardal ar draws Heddlu De Cymru.
Rydym yn parhau i recriwtio myfyrwyr o brifysgolion Cymru i ddatblygu gweithgareddau rhwng cymunedau a’r boblogaeth o fyfyrwyr.
Recriwtio
Yn dilyn llwyddiant parhaus y cynllun Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu, mae Heddlu De Cymru bellach yn rhagweithiol o ran recriwtio i bob ardal o Dde Cymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod o Heddlu De Cymru fel Gwirfoddolwr Cymorth yr Heddlu bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais a rhoi manylion dau ganolwr. Bydd yna angen i chi ddod i gyfweliad anffurfiol. Mae angen cynnal gwiriadau heddlu trylwyr cyn derbyn unrhyw un ar y cynllun gwirfoddoli.
Mae yna broses archwilio cefndir yn ei lle ar gyfer pob ymgeisydd newydd yn unol â pholisi recriwtio cyfredol Heddlu De Cymru. Os bydd eich cais yn llwyddo’r cam archwilio cefndir bydd angen i chi gwblhau holiadur meddygol byr a chewch eich gwahodd i gyfweliad anffurfiol.
Mae yna broses archwilio cefndir yn ei lle ar gyfer pob ymgeisydd newydd yn unol â pholisi recriwtio cyfredol Heddlu De Cymru. Os bydd eich cais yn llwyddo’r cam archwilio cefndir bydd angen i chi gwblhau holiadur meddygol byr a chewch eich gwahodd i gyfweliad anffurfiol.
Mae angen i bob rôl wirfoddol gael gwiriadau heddlu trylwyr cyn derbyn unrhyw un ar y cynllun, caiff y broses hon ei chwblhau o fewn 4-6 wythnos fel arfer.