Croeso i Ourbobby.com – ein hardal, ein heddlu, ein llais

Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd yn Heddlu De Cymru

OurBobby.com Hafan

Deputy Sheriff Scheme

Mae'r ‘Dirprwy Sheriff’ yn fenter a ddechreuwyd gan Dîm Plismona Cymdogaeth Bonymaen o ganlyniad i ddifrod helaeth a achoswyd i ysgol leol yn ardal Bonymaen dros gyfnod o chwe wythnos yn ystod 2007.

Costiodd y gwaith atgyweirio filoedd o bunnoedd ac roedd cwmni yswiriant yr ysgol yn bygwth terfynu’r polisi.

Nod y Cynllun Dirprwy Sheriff yw annog pobl ifanc i gymryd diddordeb mewn amddiffyn adeiladau eu hysgol. Anogir disgyblion i riportio digwyddiadau i oedolion a all gymryd y camau angenrheidiol. Unwaith y bydd y ‘Dirprwy Sheriff’ yn cymryd y llw byddant yn cael Tystysgrif, Cerdyn Busnes mewn Casyn a Chap Pêl-fas, pob un yn arddangos y logo ‘Dirprwy Sheriff’.

Image not found. Please update the content of this webpart.

Pwy fydd yn Ddirprwy Sheriff?

Plant ysgolion lleol sy'n edrych ar ôl eu hysgolion fydd yn Ddirprwy Sheriff. Y Dirprwy Sheriff fydd Llygaid a Chlustiau eu hysgol a byddant yn riportio unrhyw beth y tybiant sy'n amheus i oedolyn/athro priodol. Ni chânt eu hannog i herio pobl, dim ond i riportio i oedolyn ddigwyddiadau y maent hwy’n tybio allai fod yn amheus.

O ble y daw cynllun y Dirprwy Sheriff?

Menter yw Dirprwy Sheriff a ddechreuwyd gan Dîm Plismona Cymdogaeth Bonymaen o ganlyniad i werth miloedd o bunnoedd o ddifrod a achoswyd i ysgolion lleol. Dioddefodd Ysgol Gynradd Cwm ym Monymaen werth £14,000 o ddifrod dros gyfnod chwe wythnos gwyliau'r haf. Ym mis Rhagfyr 2007 cafodd cynllun y Dirprwy Sheriff ei gyflwyno yn Ysgol Gynradd Cwm ychydig cyn gwyliau'r Nadolig. Yn ystod y gwyliau hynny a gwyliau dilynol ni chafwyd achosion o ddifrod yn yr ysgol.

Sut y bydd disgyblion yn dod yn Ddirprwy Sheriff?

I fod yn Ddirprwy Sheriff rhaid i ddisgyblion dyngu llw gerbron aelod o'r Tîm Plismona Cymdogaeth ac addo i edrych ar ôl eu hysgol. Yna cyflwynir cap pêl-fas, tystysgrif, cerdyn busnes mewn casyn iddynt. Ar ddiwedd pob tymor ysgol bydd eich Tîm Plismona Cymdogaeth lleol yn galw unwaith eto ac yn atgoffa pob Dirprwy Sheriff o'u haddewid i edrych ar ôl yr ysgol yn ystod y gwyliau.

Sut mae ymaelodi yn y cynllun Dirprwy Sheriff?

Bydd gan eich Swyddog Cymdogaeth lleol fanylion llawn y cynllun a gall roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen i chi. Mae croeso i chi gysylltu â hwy os nad ydynt eisoes wedi bod mewn cysylltiad, neu gallwch gysylltu â’r adran Diogelwch Cymunedol yng Ngorsaf Heddlu Sgeti (yn ystod oriau swyddfa) ar 01792 562850.

Gweithio mewn Partneriaeth

Mae'r cynllun hwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda Menter Ysgolion Y Gwasanaeth Tân, y Sgwad Diogelwch.

No File Found
Link to home page