Mae'r ardal hon yn cynnwys Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n cynnwys Porthcawl a Maesteg. Mae'r ardal wedi'i lleoli rhwng Castell-nedd Port Talbot a Bro Morgannwg.

Prif Uwcharolygydd Liane James
Helo, fi yw Liane James, Comander yr Heddlu ar gyfer siroedd Pen-y-bont ar Ogwr a'r Barri. Rwy'n falch iawn eich bod wedi cymryd yr amser i ymweld ag 'einbobi.com' bod gennych ddiddordeb yn y modd y gallwch chi helpu i wella ansawdd bywyd pawb sy’n byw yn yr ardal hon yn Ne Cymru, sy'n ymfalchïo yn ei chymunedau. Mae’r wefan hon yn rhoi cyfle i chi ddylanwadau ar blismona yn eich ardal ac i gydweithio â ni er mwyn sicrhau bod y Sir yn parhau yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.
Fel tîm ymroddedig o swyddogion Heddlu, staff Heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr Heddlu, rydym am wrando ar eich barn a gwneud ein gorau glas i gynnig y gwasanaeth plismona rydych ei eisiau ac yn ei haeddu.