Taclo'r Taclau - Helpwch i Ddatrys Trosedd Leol
Mae Taclo'r Taclau yn elusen annibynnol DU-eang sy’n gweithio i atal troseddu. Mae Taclo'r Taclau yn gweithio drosoch chi, eich teulu a'ch cymuned. Ffoniwch Taclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111, a dywedwch yr hyn a wyddoch wrthym, nid pwy ydych chi.
Cliciwch ar y ddolen hon i fynd i dudalen chwiliad lleol Taclo'r Taclau i weld a allwch adnabod neu a wyddoch am berson sy'n gyfrifol am gyflawni troseddau yn eich ardal.
Gallwch glicio ar y dolenni isod i fynd â chi i brif wefan Taclo'r Taclau, sy’n llawn o gyngor a gwybodaeth.
Mae dolen hefyd ar gyfer Shadow CS, sef gwefan ryngweithiol ddifyr am droseddu wedi'i hanelu at bobl ifanc 11-16 oed. Mae'n galluogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn trafodaethau am droseddu a phethau bob dydd sy'n effeithio arnynt.