
Carl Elliot #CE
Swyddog Cymorth Rheng Flaen Merthyr

Michelle David #MD
Swyddog Cymorth Rheng Flaen Rhondda

Deidre Bellshaw #DB
Swyddog Cymorth Rheng Flaen Cynon

Sergeant Jason Rees NPT_Jason
Rheolwr Rhawd Cymdogaeth Rhondda Fach

PC Andy Newman NPT_Andy
Swyddog ym Maerdy, Rhondda

PC Daren Pike NPT_Daren
Rheolwr Rhawd Cymdogaeth Talbot Green, De Taf

PC Matt Davies NPT_Matt
Rheolwr Rhawd Cymdogaeth Merthyr

PC Graham Williams NPT_Graham
Rheolwr Rhawd Cymdogaeth yn Nhonypandy, Rhondda

PCSO Luke Hunter NPT_Luke
Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Ngurnos, Merthyr

PCSO Terry O’Brien NPT_Terry
Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Ngurnos, Merthyr

PC Ian Francis NPT_Ian
heolwr Rhawd Cymdogaeth yn Nowlais, Merthyr

Andrew George #ag
Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau
Ein Siarter Cyfryngau Cymdeithasol
@swpnorth
Cyfrif Twitter y Rhanbarth Gogleddol
Mae gan Ranbarth Gogleddol Heddlu De Cymru, sy’n gyfrifol am Rondda Cynon Taf a Merthyr, ei gyfrif Twitter ei hun (@swpnorth).
PWYSIG: Peidiwch â rhoi gwybod am droseddau neu ddigwyddiadau ar Twitter. Ffoniwch Heddlu De Cymru ar y rhif difrys, 101, neu 999 mewn argyfwng..
Rheolir y cyfrif gan dîm Cyfathrebu Corfforaethol Heddlu De Cymru, ond fe’i cynhelir gan nifer o bobl mewn rolau amrywiol ledled ein busnes. Mae hyn er mwyn sicrhau bod dilynwyr yn derbyn y negeseuon diweddaraf, dynamig yn rheolaidd, sydd yn ddiddorol ac yn rhoi gwybodaeth..
ID Trydar
Bydd y cyfranwyr yn defnyddio eu hashtag unigryw i dagio pob tro y bydd yn trydar. Bydd hyn yn eich galluogi i chwilio am ddiweddariadau penodol yn unig. Mae mynegai o gyfranwyr a’u ID ar gael uchod, yn ogystal â llun o’r cyfrannwr hwnnw.
Negeseuon @swpnorth
Os ydych yn dilyn y cyfrif, gallwch ddisgwyl rhwng 10 ac 20 trydar bob dydd sy’n:
- Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am gyfleoedd i gwrdd â swyddogion
- Darparu manylion am arestiadau ac euogfarnau
- Apelio am help gydag ymchwiliadau
- Arwyddbostio newyddion diweddaraf a gwybodaeth ddiddorol i ddilynwyr
- Cysylltu dilynwyr â chynnwys arall ar y we
- Aildrydar/rhoi dolenni i ac o unigolion a sefydliadau eraill.
Ein Polisi Twitter
Os ydych yn ein dilyn ar Twitter, ni fyddwn yn eich dilyn chi yn awtomatig hefyd. Mae ein rôl i arwyddbostio ein dilynwyr at asiantaethau a sefydliadau eraill sy’n berthnasol i’n gwaith yn bwysig – mae ein rhestr o ddilynwyr rhesymol yn ein helpu i wneud hyn. Gall fod achlysuron pan fyddwn yn dilyn unigolion, ond nid yw hynny’n golygu unrhyw fath o gefnogaeth.
Argaeledd
Byddwn yn diweddaru ac yn monitro ein cyfrif Twitter mor aml â phosib.
Fodd bynnag, caiff y mwyafrif o negeseuon eu trydar yn ystod amserau defnydd brig pan fo’n dilynwyr a’n staff fwyaf actif. Mae hyn rhwng 8am a 8pm ddydd Llun i ddydd Gwener.
Efallai y bydd Twitter ddim ar gael ar adegau, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros ddiffyg gwasanaeth oherwydd amser di-fynd Twitter.
@Ymatebion a Negeseuon Uniongyrchol
Croesawn adborth a syniadau gan ein holl ddilynwyr. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gallu ymateb i negeseuon a sylwadau unigol a dderbyniwn ar Twitter bob amser.
Byddwn yn darllen @replies ac yn sicrhau y trosglwyddir unrhyw themâu amlwg neu awgrymiadau defnyddiol i’r bobl berthnasol ac yn ymateb lle bo’n bosib.
Ein nod yw ymateb i unigolion o fewn 48 awr, fodd bynnag, bydd adegau pan na fydd hynny’n bosib, megis ar y penwythnos.
Mae manylion y ffyrdd arferol o gysylltu â ni ar gyfer gohebiaeth swyddogol yn adran cysylltu â ni ein gwefan.
Hashtag (#)
Nid ydym yn gyfrifol am hashtag neu drydar defnyddwyr eraill sy’n defnyddio’r hashtag. Nid ydym yn cefnogi defnyddwyr eraill sy’n defnyddio’r hashtag ac nid ydym yn gyfrifol am yr hyn a ysgrifennant.
Any feedback or suggestions, please email us