Tipio anghyfreithlon
Mae troseddwyr sy’n tipio’n anghyfreithlon yn defnyddio tir y Comisiwn Coedwigaeth yn rheolaidd fel tir gwaredu gwastraff. Gwelir cannoedd o enghreifftiau o dipio anghyfreithlon yn fforestydd Cymru bob blwyddyn, a hynny’n golygu cost o gannoedd o filoedd o bunnoedd i’r Comisiwn Coedwigaeth a’r trethdalwyr.
Yn ogystal â bod yn gostus, mae troseddau o’r fath hefyd yn ddiolwg ac yn beryglus i bobl ac i’r amgylchedd a bywyd gwyllt. Mae staff y Comisiwn Coedwigaeth wedi dod o hyd i bob math o sbwriel a dipiwyd yn anghyfreithlon, yn cynnwys teiars ceir (cannoedd ohonynt), asbestos, carpedi, rwbel adeiladu, gwastraff cartref, nwyddau gwyn a hyd yn oed gyrff anifeiliaid marw. Gallai peth o’r gwastraff a ‘daflwyd yn anghyfreithlon’ fod wedi ei waredu’n rhwydd yn safleoedd mwynder yr awdurdod lleol neu hyd yn oed fod wedi ei daflu i’r biniau arferol.
Ers i swyddog yr heddlu gael ei secondio i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yng Nghoed y Cymoedd (Rhanbarth De Cymru) cafwyd ymgyrchoedd ac ymchwiliadau ar y cyd gan yr heddlu, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Awdurdod Lleol. Cafwyd ymgyrchoedd cadw gwyliadwriaeth gudd mewn mannau o ‘berygl arbennig’ ar dir y Comisiwn Coedwigaeth ac o’i amgylch. Mae’r ymgyrchoedd eisoes wedi arwain at adnabod ac arestio tipwyr anghyfreithlon, ac o ganlyniad i hynny at lai o dipio anghyfreithlon mewn rhai ardaloedd.
Felly beth ddywed y gyfraith am dipio anghyfreithlon?
Mae Adran 33 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn gwahardd taflu, trin neu waredu gwastraff yn niweidiol neu heb awdurdod.
33(1) Yn unol ag isadran (2) a (3), ni ddylai person:
(a) daflu gwastraff wedi’i reoli, neu achosi’n fwriadol na chaniatáu’n fwriadol iddo gael ei adael ar unrhyw dir, oni bai bod trwydded rheoli gwastraff mewn grym sy’n awdurdodi’r gwaredu, a bod y gwaredu yn unol â’r drwydded;
(b) trin, cadw neu waredu gwastraff wedi’i reoli, nac achosi’n fwriadol neu ganiatáu’n fwriadol iddo gael ei drin, ei gadw na’i waredu:
(i) ar unrhyw dir, neu
(ii) trwy gyfrwng unrhyw offer symudol.
Heb drwydded rheoli gwastraff, a heb weithredu’n unol â’r drwydded honno, ni ddylid:
trin, cadw na gwaredu gwastraff wedi’i reoli mewn modd sy’n debygol o lygru’r amgylchedd neu wneud niwed i iechyd pobl.
O ganlyniad i’r digwyddiad hwn uwchlaw Glyn-nedd, cafwyd dyn o Dreherbert yn euog
Gellir arestio person heb warant, ac os caiff ei farnu’n euog, gall dderbyn dedfryd o chwe mis o garchar a / neu ddirwy sydd heb fod mwy na £50,000, ar gyhuddiad am dymor heb fod mwy na phum mlynedd a / neu ddirwy.ne.