Croeso i Ourbobby.com – ein hardal, ein heddlu, ein llais

Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd yn Heddlu De Cymru

OurBobby.com Hafan

Canolbwyntio ar y Dinesydd (Fersiwn Cryno)

Plismona sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd (Fersiwn Cryno)

Mae darparu Plismona sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd yn ymwneud â staff Heddlu De Cymru a’r gwasanaeth y maent hwy yn ei ddarparu.   Mae’n ymwneud â beth y maent hwy yn ei wneud, y ffordd y byddant hwy yn ei wneud, a’r gwasanaeth y maent yn hwy yn ei roi i chi.   Mae’n ymwneud â’r ffordd y maent hwy yn rhyngweithio gyda’r bobl y maent hwy yn eu gwasanaethu, a chydweithwyr eraill.

 

Yn yr oes fodern hon mae ein cymunedau yn mynnu gwasanaeth o ansawdd uchel, wedi ei deilwra i’w hanghenion penodol, ac wedi ei ddarparu ar amser ac mewn lle sy’n hwylus iddynt hwy.   Mae hyn yn arbennig o wir pan fo’r person yn agored i niwed, neu’n teimlo felly, boed yn dyst neu’n ddioddefwr, ac yn troi at yr heddlu am gymorth.

 

Nod Plismona sy'n Canolbwyntio ar y Dinesydd yw gwella bodlonrwydd a hyder y cyhoedd, yn cynnwys bodlonrwydd a hyder dioddefwyr a thystion, lle bynnag a phryd bynnag y bydd cysylltiad.   Golyga hyn symud at wasanaeth heddlu sy'n ymwybodol o anghenion pobl ac sy’n fwy ymatebol iddynt pan yn cynllunio, darparu a mesur gwasanaeth.

 

Mae gan bob swyddog ac aelod staff yn Heddlu De Cymru gyfrifoldeb i ddarparu Plismona sy'n Canolbwyntio ar y Dinesydd, a dylai'r llu nid yn unig fodloni disgwyliadau ein cwsmeriaid, ond mynd y tu hwnt iddynt trwy ddarparu gwasanaeth cwsmer rhagorol.

 

Caiff Canolbwyntio ar y Dinesydd ei wreiddio ym mhob lefel o blismona o fewn ein llu.   Mae ein Rhaglen Plismona Cymdogaeth eisoes yn rhan hollbwysig o ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y dinesydd, ac mae'n darparu cymunedau gyda:

 

MYNEDIAD at blismona a gwasanaethau diogelwch cymunedol drwy dîm pwrpasol a pherson cyswllt a enwir

 

DYLANWAD dros faterion   sy'n peri pryder yn eu cymdogaeth drwy broses ymgysylltu PACT, sy'n adlewyrchu proffiliau cymdogaeth

 

YMYRIADAU gyda gweithredu ar y cyd rhwng cymdogaethau a phartneriaid i ddatrys problemau

 

ATEBION gyda datrysiadau cynaliadwy i flaenoriaethau a nodwyd ac adborth ar ganlyniadau drwy ystod o offer cyfathrebu wedi ei dargedu.
Gwneud i bob cyswllt gyfrif

 

Mae'n ymwneud â staff Heddlu De Cymru a'r gwasanaeth proffesiynol y maent yn ei ddarparu i chi, y Dinesydd. Byddwn yn cadw De Cymru yn ddiogel drwy drin pob cyswllt a gawn gyda'n cymunedau ac unigolion â'r pwysigrwydd y mae'n ei haeddu, a gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud i'r cyswllt yma gyfrif.
 
Ysbrydoli hyder

 

Mae Plismona sy'n Canolbwyntio ar y Dinesydd yn golygu darparu gwasanaeth sy'n ymateb i anghenion a disgwyliadau cymunedau ac unigolion, yn arbennig dioddefwyr a thystion. Mae ysbrydoli hyder yn yr heddlu, yn arbennig ymhlith grwpiau agored i niwed a lleiafrifol yn hollbwysig. Byddwn bob amser yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth i chi sy'n broffesiynol ac effeithiol.
 
Rhaid i anghenion y dinesydd fod yn rhan annatod o ddarparu

 

Dylai anghenion a phryderon dinasyddion bob amser fod yn annatod i'r ffordd y caiff plismona ei weld, ei reoli a'i ddarparu. Bydd pryderon a blaenoriaethau cymunedau (ac unigolion) yn cael ei hadlewyrchu ym mhenderfyniadau, darpariaeth gwasanaeth ar arfer Heddlu De Cymru. Nid rhywbeth a ychwanegir at y ffyrdd presennol yr ydym yn cynnal ein busnes ydyw, ond rhywbeth sy’n gofyn am newid diwylliannol a threfniadol. Ymdrechwn i ddarparu'r newid hwnnw i wneud ein cymunedau yn fwy diogel ac yn lleoedd mwy pleserus i fyw. Mae proses PACT eisoes yn dylanwadu ar y broses ymgysylltu â'r gymuned hon ac mae'n datblygu’r broses o nodi blaenoriaethau cymunedol ac yn eu datrys yn effeithiol.
 
Mae gan holl aelodau staff Heddlu De Cymru gyfrifoldeb

 

Nid dim ond i'r rhannau hynny o'r sefydliad sy'n wynebu'r cyhoedd y mae Plismona sy'n Canolbwyntio ar y Dinesydd yn berthnasol, ond i bawb a gyflogir gan Heddlu De Cymru, ar bob lefel, beth bynnag fo'u swyddogaeth. Bydd ein holl staff yn ymdrechu i gyflawni'r ddarpariaeth sy'n Canolbwyntio ar y Dinesydd hon. Mae'n ymwneud â staff Heddlu De Cymru, y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu, y modd y byddant yn gwneud hyn a'r ffordd y maent yn rhyngweithio gyda chi, y bobl y maent yn eu gwasanaethu.
 
Byddwn yn GWRANDO

 

Gwrando ar gwsmeriaid a chymryd eu pryderon o ddifrif.
Ysbrydoli hyder a helpu pobl i deimlo’n ddiogel.
Cefnogaeth gyda gwybodaeth yn cynnwys rhifau cyfeirnod a manylion cyswllt.
Cymryd perchnogaeth a chyflawni addewidion.
Esbonio beth allwn ei wneud a beth na allwn ei wneud.
Hysbysu pobl ynglŷn â chynnydd yn rheolaidd a hefyd y canlyniad terfynol.
 
Cwynion

 

  • Rydym wedi ymrwymo i wrando ac ymateb i'ch pryderon a'ch cwynion. Yn achos unrhyw gwyn a wneir i ni, byddwn yn:
  • Arddangos atebolrwydd yr heddlu
  • Gweithredu i wella safonau
  • Bod yn ymatebol i anghenion yr un sy'n gwneud y gŵyn
  • Teg a chymesur
  • Amserol ac effeithiol
  • Agored i graffu cyhoeddus a sensitif i fudd y cyhoedd
  • Cynyddu hyder y cyhoedd yn ein gallu i ddelio'n effeithiol gyda'ch pryderon a'ch cwynion
 
Ymwymiad i Ansawdd Gwasanaeth

 

Bydd y cyhoedd yn derbyn yr un safon uchel o wasanaeth pryd bynnag y byddant mewn cysylltiad â'r heddlu, waeth ble neu sut fo'r cysylltiad yn digwydd neu beth fo'r rheswm dros y cysylltiad. Byddwn yn ei gwneud hi'n haws i chi gysylltu â ni, gan ddarparu gwasanaeth proffesiynol ac o safon uchel. Wrth ymdrin â'ch cysylltiad cyntaf byddwn yn eich cadw’n hysbys, sicrhau bod eich llais yn cyfrif a rhoi'r broses i chi sy'n caniatáu i chi roi adborth i ni os ydych yn fodlon (neu'n anfodlon) gyda'r gwasanaeth a ddarparwyd.

Blog Newyddion

Link to home page