
Ch Supt Liane James
Helo,Fi yw Liane James comander heddlu siroedd y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n falch iawn eich bod wedi cymryd yr amser i ymweld ag ‘ourbobby.com’ a bod gennych ddiddordeb byw yn y modd y gallwch chi helpu i wella ansawdd bywyd pob un sy’n byw yn yr ardal hon yn Ne Cymru, sydd mor falch ac mor gyfoethog o ran cymunedau. Mae’r wefan hon yn rhoi cyfle i chi ddylanwadau ar blismona yn eich ardal ac i gydweithio â ni er mwyn sicrhau bod y Sir yn parhau yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.
Fel tîm ymroddedig o swyddogion heddlu, staff heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, rydym am wrando ar eich barn a gwneud ein gorau glas i gynnig y gwasanaeth plismona rydych ei eisiau ac yn ei haeddu.